Mae Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain Cymru (BASW Cymru) yn chwilio am weithiwr cyfathrebu a materion cyhoeddus proffesiynol a phrofiadol i symud ein dylanwad a’n heffaith yn y byd cyhoeddus i’r lefel nesaf
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i chi weithio gyda gwleidyddion o bob plaid, swyddogion y llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol, i sicrhau bod lleisiau ein haelodau yn llywio dyfodol gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Gan arwain ein hymgyrchoedd, polisi a gwaith lobïo, chi fydd y pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau’r wasg a’r cyfryngau ac, ar adegau, byddwch yn llefarydd ar ran BASW Cymru.
Tra byddai gwybodaeth am gyd-destun iechyd, gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol a'r sector ehangach yng Nghymru yn ddefnyddiol, nid yw'n hanfodol. Mae BASW Cymru yn chwilio am sgiliau cyfathrebu a materion cyhoeddus effeithiol a bydd deiliad y swydd yn cael cefnogaeth dda gan dîm proffesiynol sydd â lefelau uchel o wybodaeth a phrofiad yn y sector. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi gan ein tîm cyfathrebu a materion cyhoeddus canolog BASW UK.
Bydd y rôl hon yn addas i pbbl sydd eisiau lefel uchel o ymreolaeth yn eu gwaith ond sy'n gweithredu fel chwaraewr allweddol a chydweithiwr mewn tîm bach a deinamig. Byddwch yn dod â chreadigrwydd, menter ac egni i dîm y mae ei effaith yn parhau i dyfu.
Rhaid cyflwyno ceisiadau trwy e-bost, erbyn 10am 9fed Ionawr 2024 fan bellaf i sara.hickin@basw.co.uk. Nid ydym yn derbyn CV’s.
Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad rhithiol a amserwyd ar hyn o bryd ar gyfer 25ain Ionawr 2024.
Yn BASW, gwyddom fod recriwtio’r dalent orau i’r Gymdeithas yn golygu cael mynediad i’r gronfa ehangaf bosibl o bobl.
Wrth lunio’r rhestr fer, rydym yn gwneud y ffurflenni cais yn ddienw er mwyn sicrhau bod ceisiadau’n cael eu hasesu heb ystyried enw, nodweddion personol na chefndir diwylliannol yr ymgeisydd. Mae Panel o bobl yn sgorio pob cais yn erbyn gofynion y rôl fel y nodir ym manyleb y person.